Mae Gelert Behaviour Training yn gwmni annibynnol sy’n cynnig cefnogaeth i anifeiliaid a’u rhoddwyr gofal gyda heriau ymddygiadol, emosiynol, corfforol ac oedran yn ogystal â chanllawiau ar faeth sy’n briodol i rywogaethau.

Sut Gallwn Ni Helpu

Rydym yn eich dysgu i hyfforddi drwy ddefnyddio dulliau gwyddonol modern sy’n garedig i’ch ci, yn hwyl i chi a’ch ci ac yn effeithiol.  Mae gennyn ni ymagwedd holistig at les cyffredinol eich ci a chewch help gennym i wneud y dewisiadau gorau posibl ar ran eich ci anwes i hybu ei iechyd.

Mae pobl yn aml yn gofyn i ni helpu gydag ymddygiad “problemus” (mae rhestr isod o rai enghreifftiau cyffredin) ond mae’n llawer gwell gennym gydweithio â chi a’ch ci newydd i atal unrhyw un o’r pethau hyn rhag digwydd. Cyntaf i gyd y gallwn eich dysgu sut i ddeall a chyfathrebu â’ch ci, hawsaf i gyd y bydd bywyd i chi ac i’r ci!

Hoffem bwysleisio mai eich dysgu CHI wnawn ni, er mwyn i chithau gefnogi’ch anifail anwes am byth, a’r nod yn hyn o beth yw eich grymuso i wneud penderfyniadau da drwy gydol bywyd eich ci.

Gwasanaethau Hyfforddi

  • Paratoi ymlaen llaw cyn i’r ci bach gyrraedd
  • Paratoi ymlaen llaw cyn i gi achub neu gi “ail law” gyrraedd
  • Hyfforddi cŵn bach (y pwysicaf oll!)
  • Cymorth adsefydlu i gŵn achub
  • Dysgu plant am ddiogelwch o amgylch cŵn
  • Dysgu plant am hyfforddi anifeiliaid

Ein Gwasanaethau

Rydym yn cynnig ymgynghoriadau un-i-un yn bersonol neu ar-lein i fynd i’r afael ag ymddygiad problemus, gan lunio cynllun rheoli i ddechrau i’ch cadw i gyd yn ddiogel tra byddwch chi a’ch ci yn dysgu. Weithiau, mae hyn yn golygu diogel rhag niwed, ond yn amlach na hynny, diogel rhag dysgu pethau a allai greu problem i chi neu’ch ci yn nes ymlaen. Nesaf, byddwn yn llunio cynllun ar gyfer y dyfodol a’ch helpu i’w roi ar waith drwy ddysgu’r sgiliau unigol amrywiol y bydd arnoch chi a’ch ci eu hangen i gyd-fyw’n hapus ac yn iach.

Rydym yn cynnig hyfforddiant unigol gyda’ch ci ar ein safle ni, neu yn eu hamgylchedd arferol (gallai hynny olygu’ch cartref chi neu allan am dro, gan ddibynnu pa ymddygiad rydyn ni’n ei hyfforddi). Mae gennym ni’r cyfleusterau i ymarfer sgiliau ym mhresenoldeb anifeiliaid eraill (cŵn fel arfer) ar bellter diogel sy’n gyfforddus i’ch ci. Erbyn hyn, rydym yn gallu cynnig hyfforddiant preswyl i chi a’ch ci gyda’ch gilydd hefyd.

Specialist Services

  • Support for reactive dogs (and, vitally, their humans)
  • Specialised training for dogs who are uncomfortable with husbandry procedures such as grooming, injections, veterinary examinations
  • Accompanied vet visits
  • Teaching how to help an aging pet maintain a great quality of life
  • Practical support at and after the end of your pet’s life

Common Problem Behaviours We Work With

  • Barking
  • Separation disorders
  • Livestock chasing
  • Poor/absent recall
  • Chewing
  • Pulling when on the lead
  • Loss of house training
  • Age related disorders (CCD)
  • Introducing new pets
  • Appearing aggressive on lead
  • Fearfulness
  • Biting

Rydym hefyd yn falch o fod yn aelodau o’r canlynol ac yn falch o allu cydweithio gyda hwy:

July 2022 Logos